Ysgol Gymraeg Llundain © 2025

Ethos a gwerthoedd Ein hethos Mae gan ein hysgol ethos cryf o annog ein disgyblion i bob tro anelu at ragoriaeth, i ddatblygu meddwl ymholgar, ac i feithrin cariad at ddysgu. Wrth anelu at y safonau uchaf o addysg academaidd, rydym hefyd yn hyrwyddo ethos moesol cryf yn seiliedig ar egwyddorion Cristnogol i roi cwmpawd moesol cadarn i'n disgyblion i gynnal eu bywydau o fewn bywyd cyfoes Prydain. Mae'r ysgol yn meithrin y plant yn y gorau o werthoedd Prydeinig a Chymreig, ac yn dathlu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru fel rhan o gymuned Gymraeg ehangach yn Llundain. Ein pwrpas Pwrpas ein hysgol yw gwasanaethu ein cymuned trwy ddarparu amgylchedd cynhwysol a diogel lle rydym yn gweithio i alluogi ein plant i ddatblygu i fod yn ddysgwyr gydol oes hyderus ac yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol. Dilynwn Gwricwlwm i Gymru sy’n darparu cyfleoedd diddorol a heriol i ysbrydoli ein plant. Mae cariad at ddysgu yn cael ei feithrin trwy archwilio, darganfod ac ymchwilio i bynciau trawsgwricwlaidd. Mae Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol wedi’u gwreiddio ym mhob profiad dysgu ac yn darparu sylfaen i blant gyrraedd eu potensial llawn, gan eu paratoi i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol ac arweinwyr y dyfodol mewn byd sy’n newid yn barhaus. Ein hamcanion: Datblygu sgiliau annibyniaeth, gwydnwch a'r gallu i ddatrys problemau fel y gallant lywio bywyd y tu hwnt i'r ysgol gynradd Cynnal amgylchedd diogel a hapus lle mae pob disgybl yn cael cyfle i ddatblygu'n bersonol, yn gorfforol, yn gymdeithasol, yn academaidd ac yn ysbrydol Addysgu cwricwlwm creadigol ac ysgogol gydag ystod eang o brofiadau dysgu i ddiwallu gwahanol anghenion disgyblion unigol Creu partneriaeth gyda rhieni lle maent yn cymryd rhan weithredol yn addysg eu plentyn Darparu addysg Gristnogol ond hefyd dysgu a thynnu o grefyddau eraill y byd Sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle cyfartal i ddatblygu ei botensial Ein gwerthoedd Creadigrwydd: Rydym yn meithrin amgylchedd gefnogol sy'n annog datrys problemau mewn ffyrdd greadigol ac yn creu cyfranwyr mentrus a chreadigol. Dathlwn ddoniau amrywiol ac anogwn ein disgyblion i fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth a chelfyddyd. Rhagoriaeth: Rydym yn meithrin diwylliant o ragoriaeth ymhopeth a wnawn, gan annog ein disgyblion i osod safonau uchel iddynt eu hunain a chyflawni eu gorau glas sy’n annog dysgwyr uchelgeisiol a galluog. Rydym yn dathlu ymdrech, gwytnwch a mynd ar drywydd gwybodaeth. Corff a meddwl iach - drwy annog bwyta'n iach, gwneud ymarfer corff, rhannu problemau a gwrando ar ein gilydd, rydym yn meithrin disgyblion gyda chorff a meddwl iach sy’n unigolion iach ac hyderus. Y Gymuned: Rydym yn meithrin ymdeimlad o berthyn a chyfrifoldeb cymdeithasol gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng ein disgyblion, staff a rhieni. Mae’r paratoi disgyblion i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus. Twf: Hyrwyddwn gariad at ddysgu a thwf personol parhaus. Rydym yn annog ein disgyblion i groesawu heriau a dysgu o’u camgymeriadau. Parch: Rydym yn hyrwyddo parch tuag at ein hunain, tuag at eraill a thuag at yr amgylchedd. Rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn annog dealltwriaeth, caredigrwydd ac empathi. Gonestrwydd: Rydym yn cynnal y safonau moesegol uchaf, gan bwysleisio gonestrwydd, tegwch a chyfrifoldeb personol. Ein Gweledigaeth Ein gweledigaeth yw bod yn ysgol fyfyriol sy’n dathlu ei chryfderau ond sydd hefyd yn hunanwerthuso ac yn ymdrechu i wella er budd ein holl randdeiliaid a’r gymuned. Drwy wrando ar eraill ac ystyried barn ein rhanddeiliaid yn y broses o ddatblygu, byddwn yn parhau i gynnig amgylchedd diogel, gynhwysol a phwrpasol ar gyfer ein disgyblion a’n staff presennol a’r dyfodol. Rydym yn cydnabod bod y byd yn newid yn gyflym a thrwy ddysgu a datblygu, gallwn barhau i gaffael arbenigedd a chreu cyfleoedd pwrpasol sy’n datblygu a chyfoethogi profiad addysgol ein disgyblion. Mae gennym hanes hir a chadarn o ddarparu addysg Gymraeg ragorol i’n disgyblion yn Llundain ers 1958 a thrwy hunan-werthuso, cydweithio a thrwy symud gyda’r oes, rydym yn rhagweld y byddwn yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

020 8575 0237

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies BA Anrhydedd, TAR Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
Ysgol Gymraeg Llundain  

Ysgol Gymraeg Llundain

 