020 8575 0237
Cefnogwch ddyfodol Ysgol Gymraeg Llundain
Pam mae angen eich cefnogaeth arnom
Fel llawer o ysgolion bach, rydym wedi teimlo effeithiau costau cynyddol a chysgod hir y pandemig. Er bod ein
niferoedd presennol o ddisgyblion yn is nag yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein dyfodol yn llawn addewid - yn
enwedig gyda thwf anhygoel Miri Mawr, ein grŵp babanod a phlant bach, sydd wedi treblu o ran maint ers mis Medi
2024.
Y rhai bach hyn yw'r genhedlaeth nesaf o ddisgyblion - ond mae angen cefnogaeth arnom nawr i bontio'r bwlch nes eu
bod yn ddigon hen i ymuno â'r ysgol yn llawn.
Gyda'ch help chi, gallwn sicrhau bod Ysgol Gymraeg Llundain nid yn unig yn goroesi - ond yn ffynnu.
Tair ffordd i wneud gwahaniaeth
1. Lledaenu'r gair
Mae rhannu ein stori yn un o'r pethau mwyaf pwerus y gallwch chi ei wneud.
•
Dewch yn llysgennad ysgol: A allai eich sefydliad, grŵp neu fusnes ein cefnogi trwy rannu ein stori ar eich gwefan
neu ddeunydd marchnata? Byddem wrth ein bodd yn dychwelyd y ffafr a dathlu ein cysylltiad. Cysylltwch â ni yn
info@ysgolgymraegllundain.co.uk
•
Rhannwch ein hapêl ar gyfryngau cymdeithasol: Postiwch am yr ysgol ar lwyfannau fel Facebook, Instagram, X,
neu LinkedIn. Mae pob rhanniad yn ein helpu i gyrraedd mwy o deuluoedd a allai ymuno â ni ryw ddydd. Rydym
wedi pinio postiadau y gallwch eu rhannu'n hawdd.
2. Rhoi'n ariannol
Mae pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn gweithio'n galed i gau'r bwlch rhwng incwm a
chostau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a gall eich cefnogaeth ein helpu i gyrraedd yno.
Ffyrdd o roi neu godi arian:
•
Gwnewch rodd un-tro, neu reolaidd, trwy ein tudalen JustGiving.
•
Cofrestrwch ar gyfer Easyfundraising i roi wrth i chi siopa (heb unrhyw gost i chi!):
Mae dros 3,000 o siopau - gan gynnwys Amazon, John Lewis, a Sainsbury's yn rhoi bob tro y byddwch yn siopa ar-lein.
•
Ymunwch â'n Loteri 50:50:
Mae cymeryd rhan yn y loteri yn costio £5 y mis, gyda'r enillwyr yn cael eu tynnu bob chwarter. Mae 50% o'r gronfa
wobrau yn mynd i'r ysgol, 40% i'r enillydd, a 10% i'r un sy'n dod yn ail. Ymunwch â'n loteri 50:50 am gyfle i ennill!
•
Trefnwch ddigwyddiad codi arian:
O stondinau cacennau a theithiau cerdded noddedig i gwisiau neu gyngherddau - gall eich creadigrwydd helpu i
ariannu'r dyfodol. Angen help llaw? Cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.
E-bostiwch info@ysgolgymraegllundain.co.uk neu ffoniwch ni ar 020 8575 0237
•
Ymunwch â'n Clwb Aelwyd:
Gall cyn-ddisgyblion a siaradwyr Cymraeg ifanc gyfarfod yn ein Clwb Aelwyd yr Urdd wythnosol. I Flwyddyn 7+ mae'n
gyfle i ailgysylltu â hen ffrindiau a rhai newydd, a chymryd rhan yng weithgareddau yr Urdd.
Mynychwch un o'n digwyddiadau sydd ar y gorwel.
3. Rhowch bwysau ar ein gwleidyddion
•
Llofnodwch ein deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain.
•
Ysgrifennwch at eich MS os ydych chi'n byw yng Nghymru a gofynnwch iddyn nhw ein cefnogi. Mae ein templed
yn ei gwneud hi'n hawdd. Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich MS yma.
Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol disglair
P'un a ydych chi'n rhoi ychydig neu lawer, yn dweud wrth ffrind neu'n cynnal digwyddiad codi arian - mae eich
cefnogaeth yn dod a ni yn agosach at ysgol lewyrchus sy'n dathlu diwylliant a iaith Cymru.
Diolch o galon am fod yn rhan o'n cymuned - a'n dyfodol.
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Ysgol Gymraeg Llundain © 2025
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies
BA Anrhydedd, TAR
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479