020 8575 0237
Clwb Loteri 50:50
Mae ein clwb loteri 50:50 yn codi arian i'r ysgol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill!
Mae'n costio £5 y mis i gymryd rhan yn y loteri, gyda enillwyr yn cael eu tynnu bob chwarter.
•
50% o'r gronfa wobrau yn mynd i'r ysgol
•
40% o'r gronfa wobrau yn mynd i'r enillydd
•
10% o'r gronfa wobrau yn mynd i'r ail safle
Felly os oes 40 aelod yn y clwb, pob chwarter bydd £600 yn y gronfa wobrau. Byddai'r ysgol yn derbyn £300, yr
enillydd £240 a'r ail wobr yn £60.
Sut i ymuno
Rhaid i aelodau fod yn 16 oed neu'n hŷn.
Llenwch y ffurflen gais a'i ddychwelyd i'r ebost neu cyfeiriad isod:
info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Llundain
W7 1PD
Sefydlwch Gorchymyn Sefydlog (Standing Order) gyda'r manylion isod:
Buddiolwr: London Welsh School Ysgol Gymraeg Llundain
Cod didoli: 09-01-55
Rhif cyfrif: 10805183
Swm: £5
Taliadau ar y 1af o bob mis
Eich cyfenw a'ch cod post fel y cyfeirnod
Cynyddwch eich siawns o ennill!
Gallwch dalu am fwy nag un tocyn yn y loteri, i wneud hynny newidiwch swm y taliad i adlewyrchu nifer y ceisiadau. Er
enghraifft £5 am un, £10 am ddau, £15 am dri ac ati.
Rhowch wybod i eraill
Peidiwch ag anghofio dweud wrth eich ffrindiau a'ch teulu am y clwb loteri 50:50. Po fwyaf o chwaraewyr, y mwyaf
yw'r pot!
Rheolau'r clwb
•
Mae cofrestr y clwb yn cofnodi enw, cyfeiriad ac e-bost pob aelod, y nifer o geisiadau, a'r tanysgrifiadau a
dderbyniwyd ganddynt.
•
Mae'r enillwyr yn cael eu tynnu gan Gymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau'r ysgol.
•
Os bydd tanysgrifiad aelod heb ei dalu am fis, ystyrir eu bod wedi gadael y clwb, a nid ydynt yn gymwys i gymryd
rhan.
•
Os na ellir cysylltu ag enillydd, rhoddir yr enillion yng nghronfeydd yr ysgol ar ôl 6 mis.
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Ysgol Gymraeg Llundain © 2025
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies
BA Anrhydedd, TAR
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479