020 8575 0237
Miri Mawr - Grŵp Babanod a Phlant Bach
Grŵp babanod a phlant bach cynnes a chroesawgar yn Ealing, Llundain yw Miri
Mawr.
Fe'i sefydlwyd i roi cyfle i rieni a'u rhai bach (oed 0 - 4) gwrdd ag eraill a chael hwyl
trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r grŵp ar agor i bawb, boed eich bod yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn
ddysgwyr Cymraeg neu'n rhywun sydd â diddordeb mewn dysgu.
Pryd a ble
Pryd: Bob bore Gwener, 10yb - 12yh, yn ystod y tymor.
Ble: Canolfan Gymunedol Hanwell, Westcott Crescent, Hanwell, Llundain, W7 1PD
Dewch o hyd i ni yn Ysgol Gymraeg Llundain ar lawr cyntaf y ganolfan.
Pris
Mae sesiwn sengl 2 awr yn costio £5
Neu mae bloc am y tymor yn costio £60
Sut beth yw'r grŵp?
Mae pob sesiwn Miri Mawr yn llawn gweithgareddau diddorol ac amrywiol sy'n ysbrydoli chwilfrydedd, yn meithrin hyder, ac yn
helpu plant (ac oedolion!) i ddarganfod yr iaith Gymraeg yn naturiol, trwy chwarae.
Mae ein boreau fel arfer yn cynnwys:
•
Canu caneuon a hwiangerddi
•
Straeon
•
Crefftau creadigol
•
Symud ysgafn neu ioga
•
Llawer o gemau hwyliog
Mae'n le diogel, lliwgar a chroesawgar lle gallwch chi a'ch plentyn gysylltu, rhoi cynnig ar bethau newydd, a chwrdd â ffrindiau
newydd.
Mae llawer o blant Miri Mawr yn mynd ymlaen i fynychu Ysgol Gymraeg Llundain, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddod yn rhan o'n
cymuned o oedran cynnar.
Beth mae pobl yn ei ddweud
“Mae’n teimlo’n wahanol, yn fwy cyfeillgar. Yn Llundain dydych chi ddim bob amser yn cael hynny, ond mae fel bod yn ôl yng
Nghymru.”
“Mae gan Miri Mawr awyrgylch mor hyfryd a chroesawgar. Mae’r gweithgareddau a’r crefftau wythnosol bob amser yn hwyl, a dw i
wedi gwneud ffrindiau da gyda rhieni eraill, sy’n parhau y tu allan i’r grŵp chwarae. Bonws enfawr yw faint y mae wedi helpu fy
merch i setlo mewn i’r ysgol – roedd hi eisoes yn gyfarwydd â’r adeilad, y plant, a’r athrawon, a fel canlyniad roedd cychwyn yn yr
ysgol yn gwbl ddiidrafferth a heb straen i neb!”
“Mae Miri Mawr yn gartrefol ac yn gymaint o hwyl – mae fel bod yng Nghymru.”
Rhowch gynnig ar sesiwn
Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu. Does dim pwysau nac unrhyw ymrwymiad angenrheidiol - dim ond cyfle i weld a yw'n
iawn i chi a'ch plentyn.
Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod mwy neu i drefnu eich ymweliad cyntaf.
•
E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
•
Ffôn: 020 8575 0237
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Ysgol Gymraeg Llundain © 2025
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies
BA Anrhydedd, TAR
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479