020 8575 0237

Ysgol Gynradd

Trefn y Dydd

Oriau’r Ysgol Sesiwn y bore: 9.00 y.b. – 12:00 y.p. (Cam Cynnydd 1) Meithrin a Derbyn 9.00 y.b. – 12:10 y.p. (Cam Cynnydd 2 a 3) Blynyddoedd 1-6 Sesiwn y Prynhawn: 1:10 y.p. – 3:30 y.p. (Cam Cynnydd 1, 2 a 3) Mae dechreuad graddol i’r bore o 8.40 y.b.

Clybiau’r Ysgol

Mae gennym glybiau amrywiol a diddorol a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i ddiddordebau’r plant. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig clybiau ar y dyddiau canlynol: • Dydd Llun i Ddydd Iau tan 5yp Cysylltwch â swyddfa'r ysgol am ragor o wybodaeth am brisiau ac ati. Rydym hefyd yn cynnig gofal cyn ysgol o 8yb. Nid ydym yn darparu brecwast ond mae croeso i blant ddod â brecwast gyda nhw i’w fwyta yn yr ysgol.

Gofal Cofleidiol

Rydyn ni’n cynnig darpariaeth gofal cofleidiol cyn ac ar ôl ysgol i’n disgyblion ni. Dyma’r wybodaeth gyfoes: • Cyn-ysgol – Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener o 8.00yb tan 8.40yb. • Ar ôl ysgol – Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau o 3.30yp tan 5.00yp • Dydd Mawrth – Clwb yr Urdd, 3.30yp tan 5.00yp Cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol am ragor o wybodaeth, os gwelwch yn dda: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Sefydlwch gyfrif gofal plant ar-lein i'ch plentyn drwy https://www.gov.uk/tax-free-childcare – am bob £8 rydych chi'n ei dalu i mewn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2. Gallwch ddefnyddio'r arian hwn tuag at gost clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol yn ein hysgol ni. Peidiwch ag anghofio: mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig oriau gofal plant wedi'u hariannu ar gyfer plant oed meithrin ac oed derbyn – gallwch wirio'r hyn rydych yn gymwys i'w gael yma: https://www.childcarechoices.gov.uk Gwisg Ysgol Gallech chi archebu gwisg ysgol ar wefan Price a Buckland: pbuniform-online.co.uk/londonwelshschool Gwisg y Gaeaf • Crys polo coch gyda logo yr ysgol • Siwmper/Cardigan gwyrdd yr ysgol gyda logo yr ysgol • Trowsus llwyd • Sanau duon • Esgidiau duon (dim treinyrs) neu • Sgert werdd neu binaffor • Teits gwyrddion • Esgidiau duon (dim treinyrs) Gall disgyblion wisgo crys gwyn a thei yr ysgol hefyd. Gwisg yr Haf • Crys polo coch gyda logo yr ysgol • Siwmper ysgol gwyrdd • Trowsus llwyd / trowsus byr • Sanau duon • Esgidiau duon (dim treinyrs) neu • Ffrog haf defnydd siec gwyrdd a gwyn • Cardigan gwyrdd gyda logo yr ysgol • Sanau gwynion • Esgidiau duon (dim treinyrs) Yn garedig, rydyn ni’n gofyn i Rieni/Gwarcheidweid labelu pob eitem o ddillad gyda enw eich plentyn. Dillad Ymarfer Corff • Siorts (haf yn unig) / tracwisg • Crys-T coch/melyn/gwyrdd gyda logo yr ysgol • Treinyrs Gemwaith Am resymau Iechyd a Diogelwch ac oherwydd ei fod yn anaddas gyda gwisg ysgol, ni chaniateir disgyblion i wisgo gemwaith i’r ysgol. Dim farnais ewinedd i gael ei wisgo chwaith. Gwallt Dylai gwallt gael ei gadw i ffwrdd o’r wyneb a’r llygaid ac os yw’n hir, dylai’r gwallt gael ei glymu yn ôl. Os oes angen gwisg ysgol newydd, mae’n bosib ei archebu ar-lein ar wefan Price a Buckland: pbuniformonline.co.uk/londonwelshschool Cysylltwch á’r ysgol am eitemau ‘bron yn newydd’.

Cinio Ysgol

Ni ddarperir cinio gan yr ysgol. Rydyn ni’n annog bwyta’n iach ac yn gofyn i bob plentyn ddod â bocs bwyd iachus i’r ysgol pob dydd. Rydyn ni’n argymell bod plant yn dod â diod o ddŵr gyda nhw i’r ysgol bob dydd yn ogystal â byrbrydau/ffrwythau ar gyfer amser egwyl, y bore. Mae’r disgyblion yn Nosbarth 1 yn cael llaeth bob dydd cyn amser egwyl, y bore. Gwybodaeth i Rieni: Bwyta’n Iach http://www.nhs.uk/change4life/Pages/change-for-life.aspx

Absenoldeb

Os nad yw eich plentyn yn medru mynychu’r ysgol oherwydd salwch rhaid ffonio neu e-bostio’r ysgol erbyn 9yb y diwrnod hynny i roi gwybod i ni. Os ydych yn ansicr, gwelwch gyngor GIG isod a dilynwch y canllawiau. http://www.nhs.uk/Livewell/Yourchildatschool/Pages/Illness.aspx Edrychwch hefyd at ein polisi Presenoldeb, Cofrestru a Phrydlondeb ar ein tudalen polisïau. Teithiau Rydyn ni’n cymryd mantais o fyw yn Llundain gyda’r holl gyfleoedd mae hyn yn ei gynnig. Mae asesiad risg yn cael ei wneud ar gyfer pob trip ac mae rhaid i rieni lenwi mewn ffurflen caniatâd bob amser. Helpu eich Plentyn Yn aml, mae teuluoedd yn gofyn sut allwn ni helpu ein plentyn/plant yn y cartref. Isod, mae ychydig o awgrymiadau i hybu datblygiad pellach eich plentyn. • Hybu cariad at ddysgu • Presenoldeb cyson • Cyflawni gwaith cartref yn gyson ac ar amser • Hybu annibyniaeth e.e. tacluso, gwisgo a dadwisgo, casglu adnoddau • Ymweld â’r llyfrgell leol • Hybu i ddal pensil yn gywir wrth liwio neu dynnu llun ac i ysgrifennu yn ôl polisi llawysgrifen yr ysgol • Darllen a thrafod straeon a llyfrau yn ddyddiol. Cofiwch nodi eu datblygiad trwy lenwi’r llyfryn cyswllt cartref-ysgol • Datblygu ei/u sgiliau llythrennedd a rhifedd wrth helpu gyda swyddi o gwmpas y tŷ e.e. gosod bwrdd – cyfri sawl llwy, trafod beth sydd i’w weld yn y byd o gwmpas e.e. ar y bws, cerdded i’r ysgol – pa rif sydd ar y bws, sylwi ar liwiau, siapiau a chynnal sgwrs ar ein Testun Trafod wythnosol.
Ysgol Gymraeg Llundain
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain
Ysgol Gymraeg Llundain
Ysgol Gymraeg Llundain © 2026
Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Pennaeth: Mrs Rhian Hughes-Ahmad BA Anrhydedd, TAR Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
  Ysgol Gymraeg Llundain

Ysgol Gynradd

Trefn y Dydd

Oriau’r Ysgol Sesiwn y bore: 9.00 y.b. – 12:00 y.p. (Cam Cynnydd 1) Meithrin a Derbyn 9.00 y.b. – 12:10 y.p. (Cam Cynnydd 2 a 3) Blynyddoedd 1-6 Sesiwn y Prynhawn: 1:10 y.p. – 3:30 y.p. (Cam Cynnydd 1, 2 a 3) Mae dechreuad graddol i’r bore o 8.40 y.b.

Clybiau’r Ysgol

Mae gennym glybiau amrywiol a diddorol a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i ddiddordebau’r plant. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig clybiau ar y dyddiau canlynol: • Dydd Llun i Ddydd Iau tan 5yp Cysylltwch â swyddfa'r ysgol am ragor o wybodaeth am brisiau ac ati. Rydym hefyd yn cynnig gofal cyn ysgol o 8yb. Nid ydym yn darparu brecwast ond mae croeso i blant ddod â brecwast gyda nhw i’w fwyta yn yr ysgol.

Gofal Cofleidiol

Rydyn ni’n cynnig darpariaeth gofal cofleidiol cyn ac ar ôl ysgol i’n disgyblion ni. Dyma’r wybodaeth gyfoes: • Cyn-ysgol – Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener o 8.00yb tan 8.40yb. • Ar ôl ysgol – Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau o 3.30yp tan 5.00yp • Dydd Mawrth – Clwb yr Urdd, 3.30yp tan 5.00yp Cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol am ragor o wybodaeth, os gwelwch yn dda: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Sefydlwch gyfrif gofal plant ar-lein i'ch plentyn drwy https://www.gov.uk/tax- free-childcare – am bob £8 rydych chi'n ei dalu i mewn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2. Gallwch ddefnyddio'r arian hwn tuag at gost clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol yn ein hysgol ni. Peidiwch ag anghofio: mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig oriau gofal plant wedi'u hariannu ar gyfer plant oed meithrin ac oed derbyn – gallwch wirio'r hyn rydych yn gymwys i'w gael yma: https://www.childcarechoices.gov.uk Gwisg Ysgol Gallech chi archebu gwisg ysgol ar wefan Price a Buckland: pbuniform- online.co.uk/londonwelshschool Gwisg y Gaeaf • Crys polo coch gyda logo yr ysgol • Siwmper/Cardigan gwyrdd yr ysgol gyda logo yr ysgol • Trowsus llwyd • Sanau duon • Esgidiau duon (dim treinyrs) neu • Sgert werdd neu binaffor • Teits gwyrddion • Esgidiau duon (dim treinyrs) Gall disgyblion wisgo crys gwyn a thei yr ysgol hefyd. Gwisg yr Haf • Crys polo coch gyda logo yr ysgol • Siwmper ysgol gwyrdd • Trowsus llwyd / trowsus byr • Sanau duon • Esgidiau duon (dim treinyrs) neu • Ffrog haf defnydd siec gwyrdd a gwyn • Cardigan gwyrdd gyda logo yr ysgol • Sanau gwynion • Esgidiau duon (dim treinyrs) Yn garedig, rydyn ni’n gofyn i Rieni/Gwarcheidweid labelu pob eitem o ddillad gyda enw eich plentyn. Dillad Ymarfer Corff • Siorts (haf yn unig) / tracwisg • Crys-T coch/melyn/gwyrdd gyda logo yr ysgol • Treinyrs Gemwaith Am resymau Iechyd a Diogelwch ac oherwydd ei fod yn anaddas gyda gwisg ysgol, ni chaniateir disgyblion i wisgo gemwaith i’r ysgol. Dim farnais ewinedd i gael ei wisgo chwaith. Gwallt Dylai gwallt gael ei gadw i ffwrdd o’r wyneb a’r llygaid ac os yw’n hir, dylai’r gwallt gael ei glymu yn ôl. Os oes angen gwisg ysgol newydd, mae’n bosib ei archebu ar-lein ar wefan Price a Buckland: pbuniformonline.co.uk/londonwelshschool Cysylltwch á’r ysgol am eitemau ‘bron yn newydd’.

 