020 8575 0237

Ein Cwricwlwm

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru yn ddatblygiad cyffrous iawn mewn addysg yng Nghymru, ac yn flaenllaw yn Ysgol Gymraeg Llundain. Dyma wybodaeth am Gwricwlwm i Gymru ar gyfer rhieni a’r profiadau arbennig sydd yn cael eu cynnig i’n disgyblion: Cwricwlwm newydd i Gymru Gall rhieni, gofalwyr a phobl ifanc ddod o hyd i’r canllawiau a restrir isod ar y ddolen hon: Cwricwlwm i Gymru: gwybodaeth i rhieni, gofalwyr a phobl ifanc - Hwb (gov.wales) Canllaw hygyrch a chryno i rieni Canllaw hygyrch a chryno i bobl ifanc Fersiwn hawdd ei ddeall o’r canllaw i bobl ifanc

Addysgeg

Ar galon ein cwricwlwm yw’r pedwar diben a’r nod i gefnogi disgyblion i ddod: yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas Rydym hefyd yn credu y dylai ein cwricwlwm fod yn briodol i gyfnod dysgu plant yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig ag oedran sydd i’w cyflawni. Felly, yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydyn ni’n dysgu mewn dosbarthiadau oedran cymysg a rydym yn gwahaniaethu gwaith yn ôl lefel y plentyn unigol. Mae hyn yn gyson ag addysgeg ac argymhellion yr Athro Graham Donaldson, tad Cwricwlwm i Gymru, 2022. Ysgol Gynradd Mae’r Ysgol Gynradd yn cynnig ystod eang o weithgareddau academaidd a chyd-gwricwlaidd wedi’u fframio yng nghyd-destun y Meysydd Dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Addysgir ein disgyblion mewn cymuned ofalgar iawn, lle mae unigolaeth yn cael ei werthfawrogi a chwilfrydedd deallusol yn cael ei feithrin a’i annog. Mae ein dull cyfannol wedi’i gynllunio i annog ein plant i gael awch am oes ac i fwynhau dysgu gydol oes. Mae ein staff brwdfrydig yn y Cynradd yn gweithio’n galed iawn i gefnogi anghenion pob plentyn a’u helpu i gyrraedd eu llawn botensial. Rydyn yn hynod o falch o’n safonau a’n disgwyliadau uchel. Mae’r staff yn gweithio’n ddiwyd i baratoi gwersi a phrofiadau cyfoethogi ar gyfer ein disgyblion ac i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hymgysylltu a’u herio er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol i gyflawni eu targedau cyrhaeddiad.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Y Celfyddydau Mynegiannol Iechyd a Lles Y Dyniaethau Ble mae’r pynciau traddodiadol? Cynhelir gwersi iaith (Cymraeg a Saesneg), Mathemateg, ABCh, Ymarfer Corff, Drama ac Addysg Grefyddol. Rydym yn ffocysu ar y Meysydd Dysgu eraill trwy themau ysgol gyfan trawsgwricwlaidd. Mae’r gwersi i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, heblaw gwersi Saesneg, Mathemateg, Iechyd a Lles. Yn Cam Cynnydd 2, Cymraeg ydy prif ffocws gwersi Iaith, wedyn Saesneg. Yn Cam Cynnydd 3, mae 50% o’r gwersi Iaith yn y Gymraeg a 50% yn Saesneg. Hefyd dysgir Ffrangeg. Sgiliau trawsgwricwlaidd Mae’r 3 sgil sef Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol yn gwehyddu drwy bopeth. Gwersi canu ac offerynnol - Cynigir gwersi canu a gwersi offerynnol ychwanegol am bris rhesymol. Anghenion Addysgol Arbennig Yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydym yn ymfalchïo yn ein dull rhagweithiol o adnabod anghenion ychwanegol disgyblion yn gynnar. Mae ein tîm o staff gofalgar yn gweithio ochr yn ochr â’n harbenigwr AAA profiadol i sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer pob math o anghenion ychwanegol. Defnyddiwn ystod o ymyriaethau a gweithiwn yn agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol mewn modd cadarnhaol er lles y disgyblion. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda'r broses o asesu a gwneud cais am Gynllun Gofal Iechyd Addysgol. Gwybodaeth i Rieni: A quick guide for parents and carers to the Education Health Care Plan (EHCP) process Gwybodaeth Bellach: 1. Strategaeth Ealing ar gyfer anghenion addysgol arbennig, anableddau a chynhwysiad 2023-27 / Ealing Grid for Learning 2. Gwasanaethau Ealing ar gyfer Plant gyda Anghenion Arbennig [ESCAN] Anghenion Meddygol Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion prif ffrwd y dyletswyddau cyfreithiol a ganlyn o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Rhaid iddynt: gydweithredu â’r awdurdod lleol wrth ddatblygu’r cynnig lleol; sicrhau bod yr ysgol yn cynhyrchu ac yn cyhoeddi ei Hadroddiad Gwybodaeth AAA Ysgol ar-lein yn unol â adran 69 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014; sicrhau bod gan yr ysgol drefniadau ar waith i gefnogi plant â chyflyrau meddygol (adran 100 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014). https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/344424/Special_educational_needs_and_disabilites_g uide_for_parents_and_carers.pdf

Gweithgareddau Cyfoethogi

Er mor ardderchog yw dysgu ac addysgu mewn gwersi, rydym yn cynnig llawer o weithgareddau cyfoethogi i ysbrydoli’r dysgyblion ymhellach. Trwy gymhwyso eu dysgu ffurfiol i brofiadau bywyd go iawn, daw'r dysgu yn fyw. Fel y nodwyd mewn hen ddihareb Tsieineaidd, ‘'Dywedwch wrthyf ac fe anghofiaf, dysga fi ac efallai y cofiaf, cynhwyswch fi a byddaf yn dysgu ac yn deall.' Y gweithgareddau cyfoethogi mae ein disgyblion wedi’u mwynhau yn 2023-24 ydy: Gweithdy gwyddoniaeth a thechnoleg gyda M-Sparc Menter greadigol gyda The Bumbles of Honeywood Cystadleuaeth Coginio gyda CogUrdd a’i feirniadu gan gogydd gweithredol Fullers Ymweliad i’r Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd Taith i'r Sinema (Wonka) i ddod â'r llyfr Charlie and the Chocolate Factory yn fyw Sioe Nadolig [Santa ar Streic] Gweithdy serameg gyda Catrin Howell Gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi Sant yng nghapel San Steffan, Llundain Sialens chwaraeon gyda Tîm Athletau Cymru Eisteddfod Tu Allan i Gymru Hybu’r iaith Gymraeg trwy fenter a busnes gyda Eifion Rogers a Nic Clement Gweithdy celf Gweithdy ffasiwn a ffotograffiaeth gyda Charlotte James Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda James Murray, Aelod Seneddol Taith i’r Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain Ymweliad dinasyddiaeth i Dŷ'r Cyffredin Cyngerdd gyda Chôr Cymry Llundain Taith breswyl i Wersyll yr Urdd, Llangrannog

Sut rydyn ni’n dysgu’r cwricwlwm?

Ein Taith Ni

Ein Cwricwlwm

Holiaduron Rhanddeiliaid

LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain
Ysgol Gymraeg Llundain

Ysgol Gymraeg Llundain © 2026

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies BA Anrhydedd, TAR Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
  Ysgol Gymraeg Llundain LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mathemateg a Rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Y Dyniaethau
Cymraeg Saesneg Ieithoedd rhyngwladol (Ffrangeg) Llenyddiaeth Llythrennedd a chyfathrebu [ar draws}
Mathemateg Rhifedd [ar draws]
Gwyddoniaeth Dylunio a thechnoleg Technoleg gwybodaeth Sgiliau digidol [ar draws]
Celf Cerddoraieth Dawns Drama Ffilm a’r Cyfryngau Digidol
Iechyd a datblygiad y corff Ymarfer corff Iechyd meddwl Lles emosiynol a chymdeithasol
Daearyddiaeth Hanes Crefydd Gwerthoedd a moeseg Astudiaethau busnes Astudiaethau cymdeithasol
Ysgol Gymraeg Llundain Ysgol Gymraeg Llundain Ysgol Gymraeg Llundain

Ein Cwricwlwm

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru yn ddatblygiad cyffrous iawn mewn addysg yng Nghymru, ac yn flaenllaw yn Ysgol Gymraeg Llundain. Dyma wybodaeth am Gwricwlwm i Gymru ar gyfer rhieni a’r profiadau arbennig sydd yn cael eu cynnig i’n disgyblion: Cwricwlwm newydd i Gymru Gall rhieni, gofalwyr a phobl ifanc ddod o hyd i’r canllawiau a restrir isod ar y ddolen hon: Cwricwlwm i Gymru: gwybodaeth i rhieni, gofalwyr a phobl ifanc - Hwb (gov.wales) Canllaw hygyrch a chryno i rieni Canllaw hygyrch a chryno i bobl ifanc Fersiwn hawdd ei ddeall o’r canllaw i bobl ifanc

Addysgeg

Ar galon ein cwricwlwm yw’r pedwar diben a’r nod i gefnogi disgyblion i ddod: yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas Rydym hefyd yn credu y dylai ein cwricwlwm fod yn briodol i gyfnod dysgu plant yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig ag oedran sydd i’w cyflawni. Felly, yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydyn ni’n dysgu mewn dosbarthiadau oedran cymysg a rydym yn gwahaniaethu gwaith yn ôl lefel y plentyn unigol. Mae hyn yn gyson ag addysgeg ac argymhellion yr Athro Graham Donaldson, tad Cwricwlwm i Gymru, 2022. Ysgol Gynradd Mae’r Ysgol Gynradd yn cynnig ystod eang o weithgareddau academaidd a chyd-gwricwlaidd wedi’u fframio yng nghyd-destun y Meysydd Dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Addysgir ein disgyblion mewn cymuned ofalgar iawn, lle mae unigolaeth yn cael ei werthfawrogi a chwilfrydedd deallusol yn cael ei feithrin a’i annog. Mae ein dull cyfannol wedi’i gynllunio i annog ein plant i gael awch am oes ac i fwynhau dysgu gydol oes. Mae ein staff brwdfrydig yn y Cynradd yn gweithio’n galed iawn i gefnogi anghenion pob plentyn a’u helpu i gyrraedd eu llawn botensial. Rydyn yn hynod o falch o’n safonau a’n disgwyliadau uchel. Mae’r staff yn gweithio’n ddiwyd i baratoi gwersi a phrofiadau cyfoethogi ar gyfer ein disgyblion ac i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hymgysylltu a’u herio er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol i gyflawni eu targedau cyrhaeddiad.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Y Celfyddydau Mynegiannol Iechyd a Lles Y Dyniaethau Ble mae’r pynciau traddodiadol? Cynhelir gwersi iaith (Cymraeg a Saesneg), Mathemateg, ABCh, Ymarfer Corff, Drama ac Addysg Grefyddol. Rydym yn ffocysu ar y Meysydd Dysgu eraill trwy themau ysgol gyfan trawsgwricwlaidd. Mae’r gwersi i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, heblaw gwersi Saesneg, Mathemateg, Iechyd a Lles. Yn Cam Cynnydd 2, Cymraeg ydy prif ffocws gwersi Iaith, wedyn Saesneg. Yn Cam Cynnydd 3, mae 50% o’r gwersi Iaith yn y Gymraeg a 50% yn Saesneg. Hefyd dysgir Ffrangeg. Sgiliau trawsgwricwlaidd Mae’r 3 sgil sef Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol yn gwehyddu drwy bopeth. Gwersi canu ac offerynnol - Cynigir gwersi canu a gwersi offerynnol ychwanegol am bris rhesymol. Anghenion Addysgol Arbennig Yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydym yn ymfalchïo yn ein dull rhagweithiol o adnabod anghenion ychwanegol disgyblion yn gynnar. Mae ein tîm o staff gofalgar yn gweithio ochr yn ochr â’n harbenigwr AAA profiadol i sicrhau darpariaeth bwrpasol ar gyfer pob math o anghenion ychwanegol. Defnyddiwn ystod o ymyriaethau a gweithiwn yn agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol mewn modd cadarnhaol er lles y disgyblion. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda'r broses o asesu a gwneud cais am Gynllun Gofal Iechyd Addysgol. Gwybodaeth i Rieni: A quick guide for parents and carers to the Education Health Care Plan (EHCP) process Gwybodaeth Bellach: 1. Strategaeth Ealing ar gyfer anghenion addysgol arbennig, anableddau a chynhwysiad 2023-27 / Ealing Grid for Learning 2. Gwasanaethau Ealing ar gyfer Plant gyda Anghenion Arbennig [ESCAN] Anghenion Meddygol Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion prif ffrwd y dyletswyddau cyfreithiol a ganlyn o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Rhaid iddynt: gydweithredu â’r awdurdod lleol wrth ddatblygu’r cynnig lleol; sicrhau bod yr ysgol yn cynhyrchu ac yn cyhoeddi ei Hadroddiad Gwybodaeth AAA Ysgol ar-lein yn unol â adran 69 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014; sicrhau bod gan yr ysgol drefniadau ar waith i gefnogi plant â chyflyrau meddygol (adran 100 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014). https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_da ta/file/344424/Special_educational_needs_and_disabilites_guide_for_par ents_and_carers.pdf

Gweithgareddau

Cyfoethogi

Er mor ardderchog yw dysgu ac addysgu mewn gwersi, rydym yn cynnig llawer o weithgareddau cyfoethogi i ysbrydoli’r dysgyblion ymhellach. Trwy gymhwyso eu dysgu ffurfiol i brofiadau bywyd go iawn, daw'r dysgu yn fyw. Fel y nodwyd mewn hen ddihareb Tsieineaidd, ‘'Dywedwch wrthyf ac fe anghofiaf, dysga fi ac efallai y cofiaf, cynhwyswch fi a byddaf yn dysgu ac yn deall.' Y gweithgareddau cyfoethogi mae ein disgyblion wedi’u mwynhau yn 2023-24 ydy: Gweithdy gwyddoniaeth a thechnoleg gyda M-Sparc Menter greadigol gyda The Bumbles of Honeywood Cystadleuaeth Coginio gyda CogUrdd a’i feirniadu gan gogydd gweithredol Fullers Ymweliad i’r Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd Taith i'r Sinema (Wonka) i ddod â'r llyfr Charlie and the Chocolate Factory yn fyw Sioe Nadolig [Santa ar Streic] Gweithdy serameg gyda Catrin Howell Gwasanaeth Dydd Gŵyl Dewi Sant yng nghapel San Steffan, Llundain Sialens chwaraeon gyda Tîm Athletau Cymru Eisteddfod Tu Allan i Gymru Hybu’r iaith Gymraeg trwy fenter a busnes gyda Eifion Rogers a Nic Clement Gweithdy celf Gweithdy ffasiwn a ffotograffiaeth gyda Charlotte James Sesiwn cwestiwn ac ateb gyda James Murray, Aelod Seneddol Taith i’r Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain Ymweliad dinasyddiaeth i Dŷ'r Cyffredin Cyngerdd gyda Chôr Cymry Llundain Taith breswyl i Wersyll yr Urdd, Llangrannog

Sut rydyn ni’n dysgu’r

cwricwlwm?

Ein Taith Ni

Ein Cwricwlwm

Holiaduron Rhanddeiliaid

LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA
Ysgol Gymraeg Llundain ‘A fynn, a fedr’ Addysg Gynradd Gymraeg Ddwyieithog yn Llundain

020 8575 0237

Ysgol Gymraeg Llundain © 2026

Cyfeiriad Ysgol Gymraeg Llundain Canolfan Gymunedol Hanwell Westcott Crescent Hanwell Llundain W7 1PD
Cysylltu Ffôn: 020 8575 0237 E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk Mewn argyfwng, neu pan fydd yr ysgol ar gau - E-bost: info@ysgolgymraegllundain.co.uk
Gwybodaeth Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies BA Anrhydedd, TAR Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479
  LAWRLWYTHWCH YMA LAWRLWYTHWCH YMA Ysgol Gymraeg Llundain