020 8575 0237
Cyn Ddigwyddiadau
Halibalŵ
Dyddiad: Dydd Sul 12 Hydref, 11am - 3pm
Lleoliad: Canolfan Cymry Llundain
Tocynnau: Tocyn teulu £15, tocyn unigol £10 (mae bocs cinio am ddim i blant wedi'i gynnwys).
Os ydych chi'n deulu Cymreig yn Llundain - dyma ddigwyddiad y flwyddyn. Bydd sesiynau crefft, castell neidio a man chwarae meddal,
tunnell o stondinau a lluniaeth cartref ardderchog.
Hefyd, bydd Griff o Cyw yn arwain y canu a'r dawnsio, mae Mewn Cymeriad yn cyflwyno sioe ryngweithiol gyda'r actor Llion Williams i
blant hŷn, a bydd Rhian Green o Fudiad Meithrin yn arwain y straeon, a'r sesiynau canu ac arwyddo.
Cyngerdd Pedair
Dyddiad: Nos Wener 17eg Hydref, 7.30pm
Lleoliad: Eglwys Gymraeg Canol Llundain, W1W 8DJ
Tocynnau: £20 trwy Eventbrite
Ymunwch â ni am noson chlyd yng nghwmni pedair o artistiaid gwerin
arobryn amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a
Siân James. Mewn cyfle prin i'w gweld yn perfformio yn Llundain,
byddant yn dod â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda
threfniannau newydd ar delynau, gitârs, piano ac acordion.
Cysylltwch â glenysroberts@ysgolgymraegllundain.co.uk am fwy o
fanylion.
TAFWŶL - Lansiad yn Llundain
Fel rhan o Wythnos Cymry Llundain, bydd gig Lansiad Tafwŷl gyda Al Lewis a’r band Taran,
Canolfan Cymry Llundain, Dydd Gwener 28 Chwefror 20:00. Bydd stondin gan Ysgol Gymraeg
Llundai yna.
Manylion: yma
Tocynnau: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/157-163-grays-inn-rd/london-welsh-centre-
canolfan-cymry-llundain/gig-lansiad-tafwyl-2025/e-
vklykk?fbclid=IwZXh0bgNhZW0CMTEAAR1oUi5NwG0911pnhx6EhC996U4aCrjS2T_MB6K-
sVj1NzWg4XYEw3ExKu8_aem_9mS0ECfnpYptShlOsyntXw
Cwrdd â Siôn Corn
Dydd Llun 9fed Rhagfyr
Gwahoddiad i deuluoedd Miri Mawr dod â phlantos i gael hwyl yng nghwmni Siôn Corn.
Halibalŵ
Dydd Sul Hydref 13eg
Peidiwch â cholli gŵyl deuluol cyfrwng Cymraeg fwyaf Llundain gan Gymuned Ysgol Gymraeg Llundain. Welwn ni chi ‘na! Lledwch y
gair a dewch â’r teulu oll!
Sefydliad Prydeinig y Galon
Dydd Gwener Medi 20
Dewch i’r ysgol yn gwisgo coch. Bwced rhoddion - codi arian dros Sefydliad Prydeinig y Galon.
Ras y Capeli
Dydd Sadwrn Medi 21
Eisteddod Genedlaethol 2024 Rhondda Cynon Taf
Awst 3-10
Bydd Ysgol Gymraeg Llundain ar stondin ‘Cymru a’r Byd’ ar Faes yr Eisteddfod. Byddwn ni yno bob dydd gyda Chymry’r Ariannin ac
eraill. Galwch heibio i'n gweld i ddweud helo! Am ragor o fanylion am Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, dyma’r linc:
https://eisteddfod.cymru/
Ysgol
Gymraeg Llundain
‘A fynn, a fedr’
Ysgol Gymraeg Llundain © 2025
Cyfeiriad
Ysgol Gymraeg Llundain
Canolfan Gymunedol Hanwell
Westcott Crescent
Hanwell
Llundain
W7 1PD
Gwybodaeth
Athrawes Arweiniol: Miss Emilia Davies
BA Anrhydedd, TAR
Rhan o'r elusen: The Welsh Schools Trust Cyfyngedig: 1167479